Ysgoloriaethau Ymchwil Cyffredinol WGSSS ESRC wedi’u hariannu’n llawn trwy’r Llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd (Ysgol y Gymraeg)

Cardiff University

nearmejobs.eu

Manylion

Mae’n bleser gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gynnig ysgoloriaethau ymchwil llawn wedi’u hariannu gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (ESRC DTP) drwy’r Llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd sy’n dechrau ym mis Hydref 2025.

Gwahoddir ymgeiswyr sy’n dymuno astudio ar y rhaglen PhD Iaith, Polisi a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnig pwnc ymchwil ar gyfer astudiaeth ddoethurol.

Yn fras, mae’r meysydd perthnasol yn cynnwys ymchwil sy’n mynd i’r afael â pholisi a chynllunio iaith, hawliau iaith a gwleidyddiaeth, amrywiaeth a newid iaith, sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a chymdeithaseg iaith.

Cysylltwch â’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost () ar gyfer ymholiadau cyffredinol ac i gadarnhau argaeledd goruchwyliwr cyn gwneud cais ffurfiol.

Hyd astudiaethau

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd llawn amser (neu gyfwerth yn rhan amser).

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi’r myfyriwr a asesir trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.

Lleoliad ymchwil mewn ymarfer

Mae’n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau cyfanswm o 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser) ar leoliad Ymchwil ar Waith a ariennir. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Meini prawf derbyn

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth WGSSS, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy’n cyfateb i radd anrhydedd y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais. Dylai ymgeiswyr rhyngwladol fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Sylwch na all deiliaid ysgoloriaethau ymchwil ESRC llawn amser ddal naill ai swydd llawn amser, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod estynedig o amser, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni all deiliaid ysgoloriaethau ymchwil rhan-amser yr ESRC ddal swydd llawn amser.

Asesiad

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cyflawn yw 12.00 canol dydd (GMT) ar 11 Rhagfyr 2024. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o’r broses gyfweld, gofynnir cyfres o gwestiynau panel i ymgeiswyr am eu prosiect arfaethedig, eu profiad blaenorol, cymhellion a chynlluniau. Bydd y cyfweliadau’n cael eu harwain gan ymrwymiadau’r WGSSS ar Gydraddoldeb, Dargyfeirio a Chynhwysiant. Rhagwelir y cynhelir y cyfweliadau trwy MS Teams yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried ar ôl y dyddiad cau, sef 12 canol dydd, 11 Rhagfyr 2024.

Mae angen i ymgeiswyr sy’n dymuno ymuno â rhaglen PhD Prifysgol Caerdydd wneud cais drwy Wasanaeth Ymgeisio Uniongyrchol Caerdydd:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/postgraduate/research/programmes/programme/language,-policy-and-planning

Mae’r botwm ‘Gwneud Cais Nawr’ ar ochr dde’r sgrin. Nodwch yn yr adran ariannu ar ffurflen gais Caerdydd eich bod yn gwneud cais am gyllid drwy’r WGSSS.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais PhD Caerdydd, erbyn y dyddiad cau ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil 12 canol dydd 11 Rhagfyr 2024, bydd angen i chi hefyd gyflwyno Ffurflen Gais WGSSS ac atodi’r dogfennau ategol a restrir isod i’r cais hwnnw, gan ei hanfon at , gan nodi ‘Cais am Ysgoloriaeth WGSSS’ ym mhennawd pwnc eich e-bost.

  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen)
  • 2 eirda academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr fynd at y canolwyr eu hunain a chynnwys tystlythyrau gyda’u cais. Rhaid i’r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
  • Tystysgrifau gradd a Thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
  • Os yw’n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg (gweler gofyniad y rhaglen ar gyfer mynediad)

Gweler Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (wgsss.ac.uk) am ragor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ymchwil cyffredinol.

This program is only available through the medium of Welsh. To request information in English, contact

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email – cover/motivation letter where (nearmejobs.eu) you saw this posting.

Job Location