nearmejobs.eu
Manylion
Mae’n bleser gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gynnig ysgoloriaethau ymchwil llawn wedi’u hariannu gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (ESRC DTP) drwy’r Llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd sy’n dechrau ym mis Hydref 2025.
Gwahoddir ymgeiswyr sy’n dymuno astudio ar y rhaglen PhD Iaith, Polisi a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnig pwnc ymchwil ar gyfer astudiaeth ddoethurol.
Yn fras, mae’r meysydd perthnasol yn cynnwys ymchwil sy’n mynd i’r afael â pholisi a chynllunio iaith, hawliau iaith a gwleidyddiaeth, amrywiaeth a newid iaith, sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a chymdeithaseg iaith.
Cysylltwch â’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost (macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk) ar gyfer ymholiadau cyffredinol ac i gadarnhau argaeledd goruchwyliwr cyn gwneud cais ffurfiol.
Hyd astudiaethau
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd llawn amser (neu gyfwerth yn rhan amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi’r myfyriwr a asesir trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad ymchwil mewn ymarfer
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau cyfanswm o 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser) ar leoliad Ymchwil ar Waith a ariennir. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Meini prawf derbyn
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth WGSSS, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy’n cyfateb i radd anrhydedd y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais. Dylai ymgeiswyr rhyngwladol fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Sylwch na all deiliaid ysgoloriaethau ymchwil ESRC llawn amser ddal naill ai swydd llawn amser, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod estynedig o amser, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni all deiliaid ysgoloriaethau ymchwil rhan-amser yr ESRC ddal swydd llawn amser.
Asesiad
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cyflawn yw 12.00 canol dydd (GMT) ar 11 Rhagfyr 2024. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o’r broses gyfweld, gofynnir cyfres o gwestiynau panel i ymgeiswyr am eu prosiect arfaethedig, eu profiad blaenorol, cymhellion a chynlluniau. Bydd y cyfweliadau’n cael eu harwain gan ymrwymiadau’r WGSSS ar Gydraddoldeb, Dargyfeirio a Chynhwysiant. Rhagwelir y cynhelir y cyfweliadau trwy MS Teams yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried ar ôl y dyddiad cau, sef 12 canol dydd, 11 Rhagfyr 2024.
Mae angen i ymgeiswyr sy’n dymuno ymuno â rhaglen PhD Prifysgol Caerdydd wneud cais drwy Wasanaeth Ymgeisio Uniongyrchol Caerdydd:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/postgraduate/research/programmes/programme/language,-policy-and-planning
Mae’r botwm ‘Gwneud Cais Nawr’ ar ochr dde’r sgrin. Nodwch yn yr adran ariannu ar ffurflen gais Caerdydd eich bod yn gwneud cais am gyllid drwy’r WGSSS.
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais PhD Caerdydd, erbyn y dyddiad cau ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil 12 canol dydd 11 Rhagfyr 2024, bydd angen i chi hefyd gyflwyno Ffurflen Gais WGSSS ac atodi’r dogfennau ategol a restrir isod i’r cais hwnnw, gan ei hanfon at myfyrwyrcymraeg@caerdydd.ac.uk, gan nodi ‘Cais am Ysgoloriaeth WGSSS’ ym mhennawd pwnc eich e-bost.
Gweler Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (wgsss.ac.uk) am ragor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ymchwil cyffredinol.
This program is only available through the medium of Welsh. To request information in English, contact encap-pgadmissions@cardiff.ac.uk
To help us track our recruitment effort, please indicate in your email – cover/motivation letter where (nearmejobs.eu) you saw this posting.
Job title: Employment Lawyer Company Novo Nordisk Job description and implementation thereof, and occasionally acting…
Job title: Relationship Manager Company G2 Legal Job description corporate services firm that is looking…
Job title: Sales support munkatárs - Budapest Company Get Work Iskolaszövetkezet Job description végezd a…
Job title: Liseberg Grand Curiosa Hotel söker Housekeeping Manager Company Liseberg Job description som Housekeepingteamet…
Job title: Responsable Marketing Local Pitaya h/f Company Groupe Bertrand Job description de marketing opérationnel…
Job title: Engaged scholar in Finance Company Jönköping University Job description Professor), and we are…
This website uses cookies.